Y lle cyntaf i droi os ydych chi angen help i gael eich clywed; cymorth i ddeall gwasanaethau cymdeithasol; os ydych chi'n teimlo nad ydych chi'n derbyn y gefnogaeth gywir i aros yn annibynnol.
Gallem roi cymorth i chi i gael at y gwasanaeth cymdeithasol cywir, gwneud synnwyr o'ch opsiynau a deall eich sefyllfa, cael rhywun i siarad ar eich rhan, ac i eirioli ar eich rhan. Peidiwch â dioddef yn ddistaw, sicrhewch fod pobl yn clywed.
Cysylltwch â Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr.
YDY LLAIS A DEWIS PEN-Y-BONT AR OGWR YN ADDAS I MI?
YDY: Os ydych chi dros 18 oed, yn byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn gymwys am wasanaethau cymdeithasol.
YDY: Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol, gofalwr, neu rywun arall sy'n poeni am les rhywun.
SUT GALLEM HELPU?
GALL LLAIS A DEWIS PEN-Y-BONT AR OGWR HELPU OS...
Rydych chi angen gwybodaeth neu gyngor i helpu chi i ddewis y gwasanaeth lleol cywir ar gyfer eich anghenion neu rhai'r person rydych chi'n poeni amdanynt
Rydych chi angen cymorth i ddeall gwybodaeth sydd yn gallu helpu chi i wneud penderfyniadau eich hun
Rydych chi'n teimlo bod angen cymorth arnoch i gael eich clywed ac nad oes neb arall i siarad ar eich rhan
Rydych chi eisiau rhywun i helpu chi i siarad, neu i siarad ar eich rhan, mewn cyfarfodydd gyda gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol
Rydych chi eisiau cymorth i ddeall trafodaethau sydd yn digwydd am eich gofal neu'r person rydych chi'n poeni amdanynt
Rydych chi eisiau cymorth i gymryd rhan yn y penderfyniadau mae pobl eraill yn ei wneud sydd yn cael effaith arnoch chi neu'r person rydych chi'n poeni amdanynt
Rydych chi'n teimlo nad yw'r gweithwyr proffesiynol yn gwrando ar eich barn neu rydych chi'n anghytuno gyda phenderfyniadau sydd yn cael eu gwneud amdanoch chi neu'r person rydych chi'n poeni amdanynt
Rydych chi angen cymorth i gynnal eich hawliau, neu hawliau'r person rydych chi'n poeni amdanynt
Byddem yn ceisio eich helpu i ddarganfod y gwasanaeth lleol cywir fydd yn cyrraedd eich anghenion, neu gallem helpu gydag Eiriolwr Annibynnol Proffesiynol sydd yn weithiwr cyflogedig hyfforddedig fydd yn darparu cefnogaeth annibynnol i bobl sydd yn gymwys i wasanaethau cymdeithasol a ble nad oes neb arall i helpu.